
Rhif y ddeiseb: P-06-1538
Teitl y ddeiseb: Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo
Geiriad y ddeiseb: Mae ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig cael gwared ar wasanaethau strôc llawn o Ysbyty Bronglais, gan orfodi cleifion o Geredigion, Powys, a De Meirionnydd i wynebu trosglwyddiadau peryglus a phell i ysbytai yn Llanelli neu Hwlffordd. Rydym yn annog y Senedd a Llywodraeth Cymru i ymyrryd ar unwaith, gan fynnu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn asesu'r effeithiau hyn yn llawn ac yn ymrwymo i gynnal Bronglais fel uned adsefydlu strôc, gan amddiffyn gwasanaethau iechyd hanfodol yng Nghanolbarth Cymru.
Mae'r testun uchod yn cael ei gyflwyno gan y deisebydd. Mae'r tîm deisebau yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ei fod yn cadw ei lais dilys. Nid yw'r testun hwn wedi'i wirio am gywirdeb, neu wallau, a gall gynnwys barn neu honiadau heb eu gwirio.
Mae Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth yn gwasanaethu ardal fawr a gwledig yn bennaf yng Nghanolbarth Cymru sy'n cwmpasu Ceredigion ynghyd â rhannau o Wynedd a Phowys. Ar hyn o bryd mae'n darparu ystod lawn o wasanaethau strôc, gan gynnwys gofal ar gyfer strôc acíwt a hyperacíwt, thrombolysis (ar gyfer cleifion cymwys) ac adsefydlu.
Mewn cyfarfod ar 29 Mai 2025, cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (HDdUHB) i lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Gynllun Gwasanaethau Clinigol. Mae'r cynllun yn cynnwys amrywiaeth o gynigion ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau a nodwyd gan y Bwrdd Iechyd fel rhai ble mae angen newid oherwydd pryderon ynghylch cydnerthedd y gwasanaeth a diogelwch cleifion.
Roedd y gwasanaeth strôc yn un o'r gwasanaethau a nodwyd, ac mae'r cynllun yn nodi dau opsiwn ar gyfer sut y gellid eu haildrefnu:
§ Opsiwn A: Byddai cleifion sy'n cyrraedd Ysbyty Bronglais yn cael eu trosglwyddo, naill ai i Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli neu Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ar gyfer gofal cleifion mewnol. Byddai Ysbyty’r Tywysog Philip ac Ysbyty Llwynhelyg ill dau yn darparu 12 awr o ofal arbenigol y dydd.
§ Opsiwn B: Byddai cleifion sy'n cyrraedd Ysbyty Bronglais yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty'r Tywysog Philip am 72 awr o ofal cleifion mewnol fel arfer, a byddai gofal parhaus yn cael ei ddarparu naill ai yn Ysbyty'r Tywysog Philip neu yn Ysbyty Llwynhelyg. Byddai Ysbyty’r Tywysog Philip yn darparu 24 awr o ofal arbenigol y dydd, a byddai Ysbyty Llwynhelyg yn darparu 12 awr y dydd.
Yn y ddau senario, byddai'r uned strôc yn Ysbyty Bronglais yn gweithredu fel gwasanaeth 'trin a throsglwyddo' yn unig. Goblygiadau hyn fyddai, er y byddai'r uned yn parhau i ddarparu asesiad cychwynnol a thrombolysis yn ôl yr angen, y byddai cleifion yn cael eu trosglwyddo i ganolfan arbenigol mewn man arall ar ôl derbyn gofal cychwynnol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi datgan y byddai'n lliniaru unrhyw effaith ar deuluoedd a gofalwyr drwy ddarparu 'llwyfannau ar-lein' i'w cadw mewn cysylltiad. Byddai hefyd â’r nod o gael y cleifion i ddychwelyd adref yn gyflymach er mwyn parhau i wella gyda chymorth gwasanaeth cymunedol.
Mynegwyd pryderon am y cynigion hyn gan gleifion ac ymgyrchwyr lleol. Ymhlith y rhai sy'n feirniadol o'r cynigion mae Dr Phil Jones, y cyn-Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Strôc yng Nghymru, ynghyd â'r grŵp Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais, a sefydlwyd i wrthwynebu'r newidiadau.
Mae'r grwpiau hyn wedi beirniadu'r cynigion am anwybyddu rôl teulu a ffrindiau mewn adsefydlu ar ôl strôc, gyda phellteroedd a seilwaith trafnidiaeth cyfyngedig yn gwneud ymweliadau rheolaidd yn anymarferol. Mae pryderon hefyd wedi’u mynegi ynghylch sut y byddai cleifion o Ysbyty Bronglais yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty'r Tywysog Philip ac Ysbyty Llwynhelyg ac yna'n cael eu dychwelyd adref, ac a fyddai hyn yn cynnwys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae'r cynnig i ddefnyddio llwyfannau ar-lein ar gyfer cyfathrebu â chleifion hefyd wedi cael ei feirniadu fel un afrealistig, o ystyried namau sy'n gysylltiedig â strôc, a chysylltedd digidol gwael yn y rhanbarth.
Mae Ysbyty Bronglais yn sgorio'n gymharol uchel mewn asesiadau gofal strôc cenedlaethol ac mae hyn hefyd wedi'i godi mewn gwrthwynebiadau i'r cynigion. Mae’r Rhaglen Archwilio Genedlaethol Strôc Sentinel (SSNAP) yn mesur ansawdd a threfniadaeth gofal strôc, ac mae'n ffynhonnell data strôc yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Sgoriodd Ysbyty Bronglais B yn yr adroddiad diweddaraf sydd ar gael yn gyhoeddus. Mae hyn yn cymharu â C i Ysbyty Glangwili ac Ysbyty’r Tywysog Philip, a B i Ysbyty Llwynhelyg.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dadlau fod y newidiadau'n angenrheidiol i ddiogelu gwasanaethau strôc, sydd ar hyn o bryd yn methu â chyrraedd safonau clinigol ac nad oes ganddynt ddigon o staff i'w cefnogi. Mae hefyd yn tynnu sylw at dystiolaeth bod canlyniadau a safonau'n uwch pan fydd gwasanaethau'n cael eu cydgrynhoi a'u darparu o lai o ysbytai, a chred y byddai canoli gwasanaethau'n gwella recriwtio a chadw staff, gan wneud gwasanaethau'n fwy cynaliadwy.
Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion i ben ar 31 Awst 2025 ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach yn adolygu’r ymatebion.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb hon yn nodi, er bod Llywodraeth Cymru yn gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer y GIG yng Nghymru, mai Byrddau Iechyd Lleol sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd. Mae'n nodi nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch dyfodol gwasanaethau strôc yn y rhanbarth.
Mae'r ymateb yn nodi bod cyngor arbenigol yn gynyddol yn cefnogi newid o'r model gofal strôc presennol tuag at ganolfannau strôc rhanbarthol cynhwysfawr, ac y bydd hyn yn angenrheidiol i gyflawni amcanion y Datganiad Ansawdd ar gyfer Strôc. Mae'n pwysleisio bod rhaid i gynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fod yn gydnaws â'r dull hwn, ar yr un pryd ag ystyried effaith lawn unrhyw newidiadau a wneir.
Mae'r ymateb hefyd yn pwysleisio bod angen i Fyrddau Iechyd Lleol fabwysiadu dull cydweithredol o ran newidiadau i wasanaethau ac y bydd disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda weithio'n agos gyda chlinigwyr, cymunedau, Byrddau Iechyd Lleol cyfagos, a phartneriaid cyflawni fel y Gymdeithas Strôc, Llais a Chyngor Sir Ceredigion.
Codwyd y newidiadau arfaethedig i wasanaethau strôc yn Ysbyty Bronglais yn ystod cwestiynau a ofynnwyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 15 Ionawr 2025.
Tynnodd Russell George AS sylw at yr anymarferoldeb i deuluoedd yn Llanidloes neu Fachynlleth orfod teithio i Lwynhelyg i ymweld â pherthnasau, a gofynnodd pa ystyriaeth a roddwyd i drigolion Powys. Mewn ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod yn disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fod mewn trafodaethau ynghylch effaith bosibl y newidiadau ar gleifion sy'n byw y tu allan i ardal Hywel Dda.
Gofynnodd Joyce Watson AS pa drafodaethau a oedd wedi digwydd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn perthynas â gofal ar ôl strôc. Atebodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod yn deall y byddai adferiad parhaus yn dal i ddigwydd yn agosach at y cartref o dan y newidiadau arfaethedig. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd cydweithio rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a grwpiau fel y Gymdeithas Strôc a’r rhai sydd â phrofiadau bywyd wrth ddatblygu eu cynlluniau.
Gofynnodd Cefin Campbell AS am sicrwydd y byddai gwasanaethau strôc llawn yn cael eu cadw yn Ysbyty Bronglais ac Ysbyty Glangwili. Mewn ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd unrhyw benderfyniad wedi'i wneud gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eto, ac na fyddai unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud cyn canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.